YNGLŶN Â'R DIGWYDDIAD

Sgiliau Cymru yw’r digwyddiad gyrfaoedd a sgiliau mwyaf i bobl ifanc yng Nghymru. Ers i ddigwyddiad cyntaf Skills Cymru gael ei gynnal yn 2010 rydym wedi sefydlu’n gadarn fel y digwyddiad y mae’n ‘rhaid ei fynychu’ ar gyfer grwpiau ysgolion a cholegau o bob rhan o Gymru.

Mae Sgiliau Cymru yn dod â chyflogwyr, prifysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant cenedlaethol a lleol at ei gilydd i gwrdd â phobl ifanc 14-24 oed, rhieni/gofalwyr ac athrawon.

CEFNOGIR GAN

BLE A PHRYD

Bydd Sgiliau Cymru yn digwydd ddydd Mercher 26 a dydd Iau 27 Tachwedd 2025, yn Utilita Arena, Caerdydd, yng Nghanol Dinas Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth a llety rhagorol.

Dim ond taith gerdded 5 munud yw hi i orsaf drenau Caerdydd Canolog a Chyfnewidfa Fysiau Caerdydd, ac mae gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd 3 munud i ffwrdd ar droed.

Amseroedd agor

Diwrnod 1: 10.00-14.30 a 15.30-18.00
Diwrnod 2: 10.00-14.00

Cofrestrwch am docynnau AM DDIM

Ffurflen Cofrestru GrŵpFfurflen Cofrestru Unigolyn

EISIAU ARDDANGOS

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, y peth gorau fyddai trefnu cyfarfod Teams byr gyda Simon Bennie, Rheolwr Cyfrifon Cleientiaid ar gyfer Skills Cymru. Dim ond 15 munud y bydd yn ei gymryd!