Eisiau Ymweld?
Ni all unrhyw beth gymryd lle cyswllt wyneb yn wyneb ac mae Sgiliau Cymru yn darparu’r union gyfle hwnnw gyda dros 60 o arddangoswyr Cenedlaethol a Lleol. Mae hwn yn adnodd amhrisiadwy i unrhyw berson ifanc sydd angen cymorth/arweiniad neu ysbrydoliaeth ar eu camau nesaf.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim i ymwelwyr ac i’r rhai sy’n dymuno mynychu trwy daith ysgol/coleg wedi’i threfnu neu daith grŵp arall byddwn hyd yn oed yn helpu gyda’ch costau – gan gyfrannu £3.50 yr ymwelydd.
Manylion y Digwyddiad
Dyddiadau ac Amserau Agor:
Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2025 10:00 – 14:30 a 15:30 – 18:00
Dydd Mercher 27 Tachwedd 2025 10:00 – 14:00
Grwpiau Ysgol a Choleg:
Mae NAS Media yn cynnig cynllun bwrsariaeth teithio i fyfyrwyr ym Mlynyddoedd 12, 13 ac 11 o Ysgolion a Cholegau. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol bod ein digwyddiadau’n boblogaidd iawn a darperir cyllid ar sail y cyntaf i’r felin.
Os ydych chi’n athro o Ysgol neu Goleg sydd am ddod â grŵp o fyfyrwyr ac elwa o’r fwrsariaeth, cliciwch ar ‘Cofrestru Grŵp‘ isod i gadarnhau eich archeb.
Ymwelwyr Cyffredinol:
Os ydych chi’n berson ifanc, yn rhiant/gofalwr, neu’n unigolyn sydd eisiau mynychu, cliciwch ar ‘Cofrestru Unigolyn’ isod i gael eich tocyn!
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn ag ymweld, cysylltwch â Thîm Skills Cymru.
Stryd Mary Ann, Caerdydd CF10 2EQ
Ffurflen Cofrestru GrŵpFfurflen Cofrestru UnigolynPwy Sy’n Arddangos?
Edrychwch yma i weld pwy sy’n arddangos a beth maen nhw’n ei gynnig!
Gweld Pob Arddangoswr
COFRESTRWCH HEDDIW
Archebwch nawr i warantu eich tocynnau i'r digwyddiad arloesol hwn!
Ffurflen Cofrestru GrŵpFfurflen Cofrestru Unigolyn